Rhif y ddeiseb: P-06-1353

Teitl y ddeiseb: P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru.

Geiriad y ddeiseb:  Ar hyn o bryd mae’r holl ffyrdd, ac eithrio cefnffyrdd mawr, yn dod o dan gyfrifoldeb y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Bydd cynnwys y rhwydweithiau cefnffyrdd o fewn cyfrifoldeb y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn arwain at benderfyniadau llawer mwy perthnasol a phragmatig, gan fod gan awdurdodau lleol ddealltwriaeth lawer gwell o anghenion busnesau, cymunedau, a’r economi leol.

Mae gan ogledd Cymru rai o’r parciau diwydiannol mwyaf (fel Wrecsam a Glannau Dyfrdwy) yn y DU. Mae llawer o gwmnïau rhyngwladol adnabyddus wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Mae nifer y swyddi gweithgynhyrchu yn yr ardal ymhlith y mwyaf yn y DU. Mae Caergybi, dau faes awyr rhyngwladol (Lerpwl a Manceinion) yn ei gwneud yn hawdd hyrwyddo gogledd Cymru fel lle gwych ar gyfer buddsoddi. Yn anffodus, mae ei rwydwaith ffyrdd yn hen ac felly yn atal y rhanbarth rhag cyflawni ei botensial ar gyfer twf economaidd. Mae’n rhaid i’r ffyrdd hyn, gan gynnwys y cefnffyrdd, gael eu cynllunio a’u dylunio ar y cyd â’r cymunedau a busnesau lleol er mwyn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn dwyn y buddion economaidd gorau posibl. Bydd hyn yn mynd i'r afael ag anghenion lleol megis mynediad hawdd at gyflogaeth. Dim ond penderfyniad lleol fydd yn mynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ffyrdd gogledd Cymru. Mae angen gwrando ar lais busnesau a chymunedau lleol.


1.        Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru, sef, gyda’i gilydd, y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Yr awdurdodau lleol yw’r awdurdodau priffyrdd ar gyfer y rhwydweithiau ffyrdd lleol yn eu hardaloedd.

Dau asiant cefnffyrdd sy’n rheoli’r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru - Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA). Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn gyfrifol am reoli’r rhwydwaith ac asedau, cynnal a chadw cyfalaf, a chynnal a chadw arferol. Mae prosiectau mawr ar y Rhwydwaith yn cael eu rheoli'n ganolog gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Drafnidiaeth Cymru rôl i’w chwarae hefyd o ran integreiddio’r gwaith o gynllunio a datblygu’r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn ei rhaglenni trafnidiaeth gynaliadwy cyffredinol.

Gwnaeth Senedd Cymru basio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ym mis Tachwedd 2021. Sefydlodd y Ddeddf Gyd-bwyllgorau Corfforedig fel cyrff corfforedig rhanbarthol i gyflawni rhai swyddogaethau awdurdodau lleol ar sail ranbarthol. Mae hyn yn cynnwys paratoi Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, gyda swyddogaethau pellach yn debygol o gael eu trosglwyddo i’r Cyd-bwyllgorau yn y dyfodol. Mae gan Ymchwil y Senedd erthygl o 2022 ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys cefndir pellach.

Yr adolygiad ffyrdd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad terfynol ei Phanel Adolygu Ffyrdd ym mis Chwefror 2023, ynghyd â’i hymateb a Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd.

Mae polisi newydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu buddsoddiad mewn priffyrdd i bedwar diben: cymorth ar gyfer newid dulliau teithio; lleihau anafiadau; addasu i newid hinsawdd; a mynediad cynaliadwy at safleoedd datblygu. Mae hefyd yn pennu pedwar amod ar gyfer buddsoddi, er enghraifft y dylai allyriadau carbon o adeiladu fod cyn lleied ag y bo modd.

O'r 16 o gynlluniau yng ngogledd Cymru a adolygwyd, cafodd 15 eu stopio neu eu hanfon yn ôl ar gyfer eu hadolygu. Mae rhai o’r cynlluniau yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol newydd ar gyfer Trafnidiaeth yn wahanol i argymhellion y panel. Er enghraifft, newidiwyd yr argymhelliad na ddylai'r drydedd bont dros afon Menai fynd yn ei blaen i atgyfeiriad i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer gwydnwch ar y Fenai. Hefyd, er i raglen Gwella Coridor Sir y Fflint gael ei chanslo, mae'r Cynllun yn ymrwymo i ddatblygu opsiynau i wella ansawdd aer ar yr A494 yn Aston Hill.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthygl sy’n darparu rhagor o fanylion am yr adolygiad ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Ar ôl i’r adolygiad gael ei gyhoeddi, gwnaeth Ken Skates AS – a fu gynt yn Weinidog â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yn y Bumed Senedd – alw am i gyfrifoldebau trafnidiaeth gael eu datganoli i Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Ar 13 Mehefin, awgrymodd adroddiad yn y cyfryngau fod dau brosiect economaidd – prosiect Porth y Gorllewin yn Wrecsam a Neuadd Warren ym Mrychdyn – mewn perygl yn dilyn yr adolygiad ffyrdd.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog fod Neuadd Warren yn cael ei chynnwys mewn adolygiad o gynlluniau datblygu economaidd a thrafnidiaeth a sefydlwyd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad adolygu ffyrdd. Dywedodd hefyd fod trafodaethau ar y gweill gyda Chyngor Wrecsam ar brosiect Porth Wrecsam.

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae’r llythyr gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, at y Cadeirydd yn ymateb i’r ddeiseb hon yn dweud nad oes unrhyw gynlluniau i adolygu rheolaeth Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru. Mae’n egluro pam, yn ei farn ef, na fyddai’n ddymunol datganoli cyfrifoldeb, gan amlygu bod gan y Rhwydwaith rôl wahanol i ffyrdd lleol a fyddai’n golygu y byddai datganoli yn arwain at “farn ddigyswllt ar y ffordd y mae'r system genedlaethol o lwybrau yn gweithredu ledled Cymru” yn ogystal ag aneffeithlonrwydd a chynnydd mewn costau. Dywedodd:

Mae manteision gyda'r model hwn o'r SRN yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru pan ddaw i flaenoriaethu prosiectau sy'n helpu i gefnogi'r amgylchedd, yr economi ac i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Mae hefyd yn egluro'r cysylltiadau rhwng y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth a'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a'r cydgysylltu rhyngddynt. Mae'n cyfeirio at y ffaith i adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru gael ei ddisgwyl yn ddiweddarach eleni.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.